Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 26 Medi 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol - Cynllun Gweithredu 2017-2021 (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Cynigion Trafnidiaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol 2017-2020 (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Ynni (30 munud)
·
Dadl: Data
- Cynyddu Agoredrwydd ac Argaeledd (60 munud)
Dydd Mercher 27 Medi 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Pwyllgorau (5 munud)
· Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13 mewn perthynas â Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (5 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-17 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru? (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer – Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 3 Hydref 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Cyllideb Ddrafft 2018-19 (60 munud)
· Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o Chwaraeon Cymru (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Rhaglen Ddileu TB Buchol (30 munud)
· Cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol mewn cysylltiad â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (30 munud)
· Dadl: Y Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg (60 munud)
Dydd Mercher 4 Hydref 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Cyflwyno Bil arfaethedig y Pwyllgor - Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (30 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Lee Waters (Llanelli) (30 munud)
Dydd Mawrth 10 Hydref 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Integreiddio a Gweithio mewn Partneriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol (15 munud)
· Dadl: Adolygiad Cyflym o'r Cynlluniau Strategol ar y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020 (60 munud)
Dydd Mercher 11 Hydref 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Tawelu'r traffig: Effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) (30 munud)